Bydd capten Cymru, Craig Bellamy, yn arwyddo i Gaerdydd ar fenthyg heddiw.

Fe fydd yn dod at y clwb o’r Bencampwriaeth – ei gllwb cartref – wedi iddo ffraeo gyda rheolwr Manchester City.

Cyhoeddodd ymosodwr arall Caerdydd, Jay Bothroyd, y newyddion ar ei gyfrif Twitter y bore yma.

Roedd Craig Bellamy eisoes wedi cael caniatâd i hyfforddi gyda’r clwb yn ei ddinas enedigol.

Daw’r newyddion wedi i’r blaenwr 31 oed gael gwybod na fyddai’n rhan o sgwad 25 dyn Man City ar gyfer y tymor i ddod. Roedd ganddo berthynas anodd gyda’r hyfforddwr Roberto Mancini, ers i hwnnw gymryd yr awenau oddi ar y Cymro Mark Hughes.

Fwy nag unwaith, mae Bellamy wedi dweud y byddai wrth ei fodd yn helpu Caerdydd i geisio cyrraedd yr Uwch Gynghrair ond fe fyddai ei gyflog yn broblem i’r tîm Cymreig, hyd yn oed ar gyfnod o fenthyg.