Fe fydd cwmnïau yn cael eu gwahardd rhag clampio ceir ar dir preifat er mwyn eu hatal rhag codi “tal afresymol”, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref heddiw.

Dywedodd y Gweinidog Lynne Featherstone bod ymdrechion y llywodraeth i atal cwmnïau diegwyddor oedd yn clampio ceir er mwyn gwneud elw mawr wedi methu.

Mae yna eisoes waharddiad yn yr Alban ers degawdau ac fe fydd y gwaharddiad yma yng Ngymru a Lloegr ac yn debygol o ddod i rym yn gynnar y flwyddyn nesaf.

“Dyw’r cwmnïau sy’n gyfrifol am osod y ddirwy a’r arwyddion heb ymateb i’n hymdrechion ni,” meddai Lynne Featherstone wrth raglen BBC Breakfast.

Fe fydd cwmnïau yn cael eu gwahardd rhag clampio neu gludo ceir ond fe fyddan nhw’n parhau i roi tocyn dirwy ar geir. Fe fydd perchnogion tir hefyd yn cael gosod rhwystrau er mwyn atal parcio, meddai.

“Dyw’r rhan fwyaf o heddluoedd ddim yn treulio amser yn mynd a chwmnïau clampio i’r llys, ac mae hynny’n rhan arall o’r broblem,” meddai Lynne Featherstone.

Ychwanegodd bod rhai cwmnïau yn mynd ati i “gaethiwo” gyrwyr ac mae gwaharddiad llwyr oedd yr ateb cywir. Mae gan tua 2,000 o gwmnïau drwydded i glampio yng Nghymru a Lloegr.

‘Cosb greulon’

Byddai unrhyw un sy’n clampio cerbyd neu yn ei gludo i dir preifat yn wynebu dirwy neu hyd yn oed garchar.

Dim ond yr heddlu neu gynghorau fyddai’n cael clampio neu symud car unwaith y daw’r gyfraith i rym.

Dywedodd cwmni AA bod clampio yn “gosb greulon” sydd yn “achosi gofid mawr i yrwyr am gymeriad bach”.

“Rydan ni wedi bod yn ymgyrchu o blaid gwahardd y mygio cyfreithlon yma ers blynyddoedd. Mae gormod o glampwyr yn gweithredu fel lladron pen ffordd.”