Mae o leiaf 60 o bobol wedi cael eu lladd a 112 wedi cael eu hanafu mewn ffrwydrad yn Irac heddiw.
Roedd hunanfomiwr wedi ffrwydro ei hun ger rhes o bobol oedd yn aros y tu allan i bencadlys byddin y wlad yn y brifddinas, Baghdad.
Credir bod o leiaf tri milwr wedi eu lladd ac wyth wedi eu hanafu.
Mae’r pencadlys yn derbyn tua 250 o recriwtiaid newydd yn wythnosol, wrth i fyddin Irac baratoi ar gyfer ymadawiad milwyr yr Unol Daleithiau ar ôl saith mlynedd o ryfel.
Roedd y darpar recriwtiaid wedi casglu mewn sgwâr agored ynghanol Baghdad wrth iddyn nhw ddisgwyl cael eu gadael drwy’r gatiau blaen mewn grwpiau bach.
Dim ond 5,000 o filwyr o’r Unol Daleithiau fydd ar ôl yn y wlad erbyn diwedd mis Awst. Bydd y gweddill yn gadael erbyn diwedd 2011.
Mae gwrthryfelwyr wedi cymryd mantais o hynny dros yr wythnosau diwethaf gan dargedu adeiladau llywodraeth y wlad er mwyn rhoi’r argraff nad ydyn nhw mewn rheolaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran byddin Irac bod y ffrwydrad o ganlyniad i un hunanfomiwr oedd yn gwisgo fest ffrwydrol ac wedi gwthio i ganol y dyrfa.
Awgrymodd un o’r recriwtiaid, Ali Ibrahim, 21 oed, mai bom mewn car oedd yn gyfrifol. Roedd wedi bod yn disgwyl yno ers tua 3am a digwyddodd y ffrwydrad toc wedi 7.30am.
“Roedden ni’n eistedd yno a dechreuodd rhywun weiddi am gar oedd wedi’i barcio,” meddai.
“Digwyddodd y ffrwydrad ac fe ges i fy nhaflu ar fy nghefn. Roedd o’n olygfa erchyll.”