Mi allai datblygiadau yn y modd y mae canser prostad yn cael ei drin olygu y gallai bomiwr Lockerbie fyw am flynyddoedd eto, yn ôl arbenigwr yn y maes.

Roedd rhyddhau Abdelbaset al-Megrahi gan feddwl y byddai’n marw o fewn tri mis yn “gamgymeriad” meddai’r Athro Roger Kirby, arbenigwr yn y maes o Ysbyty St George, Llundain.

Mae triniaeth cemotherapi wedi llwyddo i ymestyn bywyd rhai cleifion i hyd at dair blynedd meddai wrth raglen newyddion Channel 4 neithiwr.

“Mae triniaethau newydd yn cael eu cyflwyno drwy’r adeg,” meddai.

“Mae’r rhain wedi cael effaith mawr ar faint o gleifion sy’n goroesi canser, felly roedd hi’n gamgymeriad mawr i’w ryddhau o gan feddwl y byddai’n marw o fewn tri mis.

“Rydyn ni’n gwybod bod cleifion yn gallu goroesi am 18, 24, 36 wythnos yn hirach o ganlyniad i’r triniaethau yma.”

Rhyddhau

Penderfynodd Llywodraeth yr Alban ryddhau Abdelbaset al-Megrahi ar sail trugaredd bron i flwyddyn yn ôl, ar ôl i arbenigwyr meddygol ddweud y gallai farw o fewn tri mis.

Dychwelodd i Libya a’i groesawu fel arwr. Roedd wedi cael ei garcharu yn 2001 ar ôl ei gael yn euog o ffrwydro awyren PanAm 103 yn 1988, dros dref Lockerbie.

Fe fu farw 270 o bobol.

Mae o dal yn fyw, ac mae’r penderfyniad i’w ryddhau wedi ei feirniadu yn hallt, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau, ble’r oedd y rhan fwyaf o’r teithwyr yn dod.