Daeth cadarnhad heddiw bod gan yr actor Michael Douglas dyfiant yn ei wddf.

Ac mae disgwyl i’r enillydd Oscar 65 oed sy’n briod â’r actores Gymreig, Catherine Zeta-Jones, gael triniaeth ymbelydredd a chemotherapi.

Mae disgwyl y bydd ei driniaeth yn para wyth wythnos, ac mae llefarydd ar ei ran wedi dweud ei fod yn disgwyl gwella’n llawn.

Mae Michael Douglas wedi dweud mewn datganiad ei fod o’n “edrych ymlaen at y dyfodol”.

Enillodd Oscar am chwarae rhan Gordon Gekko yn y ffilm Wall Street yn 1987. Mae wedi ffilmio dilyniant o’r enw Wall Street: Money Never Sleeps, a fydd yn cael ei ryddhau ym Mhrydain ddiwedd mis Medi.