Cwm Hyfryd

Ces i fy ngeni yng nghanol yr ugeinfed ganrif, ac ynghanol gaeaf oer wrth droed yr Andes, ar y pymthegfed dydd o fis Mehefin.

Beth yw’r atgof cyntaf? Nid wyf yn sicr!… ond ceisiaf  droelli’n ôl drwy twnnel amser i gyrraedd at y dyddiau cynnar hynny.

Cofiaf, er engraifft, cael fy neffro gan mam yn gynnar yn y bore, tra’n cysgu yn y gwely bach. Gwely bach a relings gwyn yn codi ar bob ochor. Rhaid fy mod i’n fach ar y pryd os oeddwn yn ffitio yn hwnna!…Gwện hyfryd Mam yn deud bod rhaid codi i gychwyn ar y daith i Primavera.

Ie, Primavera, y fferm ddefaid ar y paith, lle oedd Dad yn cadw defaid gwlanog y merino yr adeg honno. (Nid oes llewyrch  ar y diwydiant gwlân heddiw, ond mi ‘roedd y pryd hynny)  ‘Roedd taith o tua wyth awr o’n blaen mewn tryc bach Jeep, oedd wedi goroesi yr ail ryfel byd. Buom yn mynd a dod rhwng Troed yr Orsedd, fferm teulu mam yn Nghwm Hyfryd a’r Primavera yn ardal Rhyd yr Indiaid ar y paith hyd oeddwn i yn bump oed, ac felly rhwng y ddau le yma daw’r atgofion cynnar. Pum mlwydd oed oeddwn i pan oedd  fy mrawd yn saith oed, ac yn hen bryd iddo  ddechrau mynd i’r ysgol yn rheolaidd ac er mwyn hynny rhaid dod i fyw i’r Cwm. ‘Roedd chwaer a brawd iau hefyd, yn dair  a dwyflwydd oed.

Felly dyna ni’n symud  a dod i aros yn derfynol i hen ffermdy Troed yr Orsedd. Ar ol Taid a Nain cafodd y fferm ei rhannu rhwng y brodyr a’r chwiorydd, a mam gafodd yn hen dŷ fferm, yr un adeiladodd Taid yn union erbyn ei genedigaeth hi, yn ôl yn 1915.

Ty hir gyda chegin, pantri, cegin orau a thair stafell wely, a stafell arall, y rŵm wag, lle cedwid pob math o drugareddau. Bocsys o afalu er engraifft, afalau cafodd eu casglu diwedd haf, a byddai yn para i’n bwydo, rhai ohonynt drwy’r gaeaf a than y gwanwyn nesa’. ‘Roedd y tŷ wrth droed yr Orsedd sef Gorsedd y Cwmwl, y mynydd sydd yn gefn  urddasol i Gwm Hyfryd ac ar y ffin gyda Chile. Yn union y tu cefn iddo gwelwyd cwmwl enfawr y llosgfynydd Chaiten y ffrwydro yn mis Mai 2008.

Tŷ mawr braf oedd Troedd yr Orsedd a chae enfawr gwyrdd o’i amgylch, gyda choed helyg, maiten, a’r poplys  o’i amgylch, a nant yn llifo’n hamddenol yn y cefn, Nant Irfon. Digon o le i redeg a chwarae. Chwarae er engraifft efo drol fach, fine yn eistedd a ´mrawd yn tynnu, fel  yn y llun sy yn y drôr gartre. ‘Roedd digon o anifeiliaid o gwmpas hefyd, ieir, twrcwn, cŵn a chathod, gwartheg a cheffylau. Ceffylau i farchogaeth a cheffyl i dynnu’r cerbyd. Dwi’n cofio mynd yn y cerbyd i’r dre unwaith beth bynnag, er bod car modur gan y teulu erbyn hynny. A’r gwartheg  godro wrth gwrs, llaeth  a menyn a chaws ar fwrdd y teulu, a phwdin reis. ‘Roedd gardd ffrwythau wrth gefn y tŷ, eirin ac afalau yn bennaf, a gardd lysiau hefyd. Byddem ni’r plant yn ymwneud a holl weithgareddau’r ffarm, y godro yn y bore a chau’r lloi min nos, fel bod llaeth gyda’r fuwch erbyn y bore, hel wyau o’r nythod, cario dwr o’r nant, cario a thorri coed tan, hel ffrwythau a helpu yn y gegin.

Ar gefn ceffyl byddem ni’r plant yn symud yn aml, a  chael llawer o hwyl, ac ambell i ras  pan na fyddai oedolion o gwmpas. ‘Roedd dal y ceffyl yn waith ynddo´i hun. ‘Roedd ein ceffylau ni’r plant yn gastiog yn aml iawn yn dianc wrth ein gweld yn agosáu gyda’r rhaf yn ein dwylo, neu fe godai’r creadur ei ben fel ein bod ni yn methu a chyrraedd ei glustiau er mwyn gosod y penffrwyn yn ei le. Ond ar y cyfan ceffylau dof, cyfeillgar a hawdd eu trin oedd ganddo ni: Caiman, Lobuno, Petiso a Morocha, dyna enwau rhai ohonynt.

Aem ar eu cefnau i’r ysgol pob dydd. Dau ohonom ar yr un ceffyl yn aml, “ar sgil” fel arferem ddweud. ‘Roedd  hanner awr o daith a mwy i gyrraedd yr ysgol. Dechreuai’r gorchwyl o baratoi ganol bore drwy fynd i’r cae i ddal y ceffyl, yna gerio a chael cinio cynnar cyn cychwyn am yr ysgol.

Ar y Sul, troi am y capel oedd y drefn, ond yn y car ac yn gwisgo dillad gore. Byddai teuluoedd y Cwm yn ymgynnull i wrando ar bregeth a chanu emynau o’r Caniedydd Cynulleidfaol, a ninnau’r plant yn deud adnod. ‘Roedd chwarae o gwmpas y capel yn hwyl, gyda digon o le i redeg, a’r garreg fawr yn ein deni i ddringo arni ac yn dipyn o gamp i neidio oddi arni. Byddai Mr. Peregrine y gweinidog, gyda’i wallt gwyn a’i wện hawddgar yn dod yn hamddenol o’r tŷ capel ac yn mwynhau edrych arno ni’n chware ac yn dotio  ein clywed yn siarad yn Gymraeg. Byddem yn awyddus iawn i fynd allan pan oedd y bregeth yn faith a’r heulwen yn siriol  y tu allan!

Adeg y Nadolig  byddai’r  “Band of Hope” yn ein paratoi  i ganu ac adrodd. Anti Ann, modryb i ni oedd yn ein dysgu. Byddai’n chware’r organ ac yn ein dysgu i ganu, ac adrodd ac hefyd actio drama’r Geni.

Byddwn yn dysgu cerddi ar  gof i’w hadrodd erbyn Gŵyl y Glaniad a chyngerddau eraill. Cofiaf mai  Y Border Bach o waith Crwys oedd y gyntaf i mi adrodd yn eisteddfod Trelew, pan ail ddechreuodd yr eisteddfodau yno ar ôl y canmlwyddiant a hefyd y gerdd Cofio gan Waldo, a llawer un arall fel Ora Pro Nobis, un o ffefrynau Dad gan iddo fo ei hadrodd pan yn blentyn.

Y Paith

‘Roeddem yn gyfarwydd ac yn treilio amser ar y  paith yr adeg honno, gwlad sych gyda’r haul a’r gwynt yn gwmpeini cyson, gwlad eang, agored, gyda’r estrys a’r gwanaco i’w gweld yn rhedeg yn rhydd. Byddem yn chwarae dan y “tamariscos”, coed  isel ag arlliw o binc arnynt sy’n tyfu o amgylch y tai. Byddem yn blasu cig y “piche” yr armadilo bach, ac wy anferth yr estrys, y “ñandú”. Mae pob wy fel dwsin o wyau ieir, ardderchog i wneud cwstard neu omlet mawr.  ‘Roedd amryw o fathau o flodau melyn yn olygfa gyfarwydd ar y llawr caregog rhwng y drain, y “coirón” a’r “neneo” y “molle” a’r “cilinbai” (celin bach yn wreiddiol).  Roedd arogl arbennig y planhigion hyn yn llenwi ein ffroenau a’r haul a’r gwynt yn anwesu ein  hwynebau.

Cofiaf hefyd un diwrnod i ni gerdded at y bedd bach rhwng y drain, bedd y plentyn a fu farw ac a gladdwyd yno, gyda’r ddwy gannwyll a osodwyd  gan  fam alarus, i warchod yr enaid ar y ffordd i’r nefoedd medde nhw.  Faint o gwestiynau daeth  i’m meddwl ifanc y diwrnod hwnw!..Pwy… Sut… Pam..? …. Marw’n ifanc ar unigeddau’r paith!

Argraff arall o fywyd ar y camp na ellir ei osgoi wrth hel atgofion, yw’r olygfa ysblennydd a welir wrth edrych fry tua’r nen yn oriau’r nos, gyda’r ser di ri yn goleuo’r ffurfafen eang ac yn llenwi’r nenfwd. Byddem yn teithio yn nghefn y tryc a mwynhau’r olygfa hon am oriau maith, ac ambell dro, cysgem allan dros nos yng nghysgod twmpath, neu dan helygen wrth ochr yr afon, ar groen dafad a “poncho”,  a’r tân yn araf ddiffod tra’n bod ni’n ymgolli wrth syllu ar y sệr uwchben. Os am engraifft o unigrwydd a thangnefedd, dyma fo. Tawelwch mewn awyrgylch mawreddog, dwys, llawn dirgelwch. Byddai’r cantwr, yr aderyn ar frig y llwyn, yn ein deffro gyda’i ganu  yn y bore tra aem ati i hel brigau i neud y tân a chynhesu’r dŵr ar gyfer y mate.

Bariloche

Pan oeddwn yn ddeg oed, cofiaf wneud taith arall yn y lorri efo mam, dad a ’mrawd, a gwersylla deuddyd ar y ffordd. Arhosodd y ddau ienga adre am y tro. Tua’r gogledd aethom y tro hwn, ar hyd cadwyn mynyddig yr Andes, tua thre Bariloche, trichant cilomedr i  fwrdd. Teithiem drwy ardaloedd newydd, yn doreithog o harddwch ynghanol y mynyddoedd a’r llynoedd, y coedwigoedd a‘r afonydd. Aem i ymweld ag ysgol breswyl dwyieithog, ysgol dan arweiniad teulu Cohen. Yno buom gyda  ´mrawd yn treulio y ddwy flynedd dilynol tra’n yn dod yn gyfarwydd a’r iaith fain. Gwersi Sbaeneg caem yn y bore, Saesneg yn y pnawn, a gwaith cartre min nos. Byddem yn ymarfer sglefrio ar eira, neu skio,  ar ddydd Sadwrn a cherdded i’r capel yn y dre ar ddydd Sul. Caem ddarlleniad o lyfrau storiau yn Saesneg, ac o’r Beibl, gyda gweddi ar ôl mynd i’r gwely yn y nos. Miss Pauline a Miss Rolls, oedd enw y ddwy a ofalau amdanom ni’r merched. Byddai son am ein teithiau adre i dreulio gwyliau’r gaeaf, gydag anhawsterau oherwydd y tywydd garw  ar hyd y ffyrdd mynyddig yn benod ar wahan. Gwnaethom gyfeillion  yn y cyfnod hwn, plant i deuluoedd  oedd yn byw ar “estancias” ar y paith, o Santa Cruz a hyd yn oed Tierra del Fuego.  Dysgasom yr iaith Saesneg a fyddai yn agor drysau i ni yn y dyfodol.

Mae arogl y rhosyn gwyllt yn dod a’r cyfnod  yma  yn glir iawn i’m cof, gan y byddem yn mynd i gerdded ar hyd llwybrau’r ardal, ac i lawr at llyn mawr Nahuel Huapi, a byddai sawr y  “mosqueta” yn llenwi ein ffroenau.

Croesi´r Iwerydd

‘Roeddwn i’n ddeuddeg oed yn gorffen f’addysg gynradd yn ysgol Woodville, ac erbyn hynny ‘roedd Dad  wedi trefnu ein bod ni yn mynd am gyfnod i’r Hen Wlad, i Ysgol Uwchrdd Tregaron, gan aros ar ffermydd Llandre a Garthenor gyda’r Lloyds, teulu a’i gwreiddiau yn ardal  Llanio. Ei gyfaill, y bardd a’r awdur R.Bryn Williams oedd yn byw yn Llanbadarn ger Aberystwyth, awgrymodd y posibilrwydd yma a’n rhoi mewn cysylltiad a’r prifathro y Br Glyn Evans.

Fy ymweliad gyntaf a Buenos Aires, y brifddinas, oedd pennod gynta’r daith. Llawer a glywem am y rhyfeddodau  a welir yno, ac ar ôl i bron  dridiau ar fws, gwelais y lle a’m llygaid fy hun. Y trện tanddaearol, y steiriau mecanyddol, y siopau mawr y “cabildo” hanesyddol a’r adeiladau uchel yn ymestyn tua’r cymylau. Buom yno am deuddydd mewn gwesty ar Avenida de Mayo cyn mentro ar fwrdd y Louis Lumiere.

Llong ffrengig oedd y Louise Lumiere, ein cartre am dair wythnos  tra’n croesi môr yr Iwerydd, ac yna cyrraedd  Southampton yn mis  Gorffennaf  1966. I mi, oedd wedi  byw yn y de wrth draed y mynyddoedd gyda thymheredd gwedol isel, ‘roedd  tywydd gwresog y cyhydedd yn fy llethu, a’r bwyd ffrengig yn hollol ddiarth i mi. Roeddwn yn rhannu stafell, neu gabin, efo thair o ferched eraill.

Profiad arbennig oedd treilio diwrnod cyfan ymhob porthladd. Buom yn crwydro Montevideo am ddiwrnod, un arall yn Santos ac un arall y Rio de Janeiro cyn croesi’r môr mawr tua’r hen gyfandir.  Ym Montevideo aethom ar fws i grwydro o amgylch y dre a gweld  cofgolofn gydag angor y Graff Spee, llong Almaenig a suddwyd yn y Rio de la Plata adeg yr ail Ryfel Byd. Ym Mrasil synnwn  wrth weld y loriau yn llawn i’r ymylon o bananas, tunelli ohonyn nhw, dim ond dwy neu dair banana ar y tro welswn i cyn hynny!… a gwelais pobol groenddu  yn wreiddiol o’r Affrig a rhai o dras siapaneaidd am y tro cynta erioed, a syndod i mi hefyd oedd gweld merched ifanc yn cerdded yn droednoeth ar y strydoedd. ‘Roedd oglau coffi  yn gry ar y strydoedd yn y dre ac yn y porthladd, a rhai  teithwyr ein llong  yn prynu hynny fedrent ohono i’w gario adre yn anrheg i’w ffrindiau.

Byddem yn cael, gyda’r fwydlen, tudalen yn ddyddiol yn rhoi crynhoad o brif  newyddion y dydd.  Un dydd yng nghanol y daith, darllenais  fod y Cenedlaetholwyr Cymreig (y “Welsh Nationalists”) wedi ennill lle yn senedd Prydain am y tro cynta yn hanes y wlad.  Gwynfor Evans aelod Plaid Cymru dros Gaerfyrddin oedd hwnnw. Achlysur hanesyddol i Gymru a ninnau’n darllen amdano gyda’n cinio ar y Louis Lumiere! Ar ol cyrraedd  y wlad, clywsom llawer mwy am Gwynfor Evans a’i orchest.

Wedi croesi’r Iwerydd, y porthladd cynta i ni ei gyrraedd oedd un ar ynysoedd y Canarias, sef Las Palmas. ‘Roedd criw ohonom wedi mynd i grwydro’r dre a’r siope a cholli ymwybyddiaeth o’r amser , yn sydyn clywem llong yn canu corn yn uchel iawn, ein llong ni oedd yn ein galw ni yn ôl!.  Portiwgal wedyn, gyda phorthladd hardd ei phrifddinas, Lisbon. Dyma pen y daith i dri o fechgyn oedd wedi dod yn ffrindiau i mrawd ar fwrdd y llong, hogia oedd yn dod gartre ar ôl treilio cyfnod yn yr Ariannin yn gweithio a hel arian i ddod adre´ i’w gwld. ‘Roedd y teuluoedd yno yn eu  cyfarfod yn y porthladd.

Vigo yn Sbaen wedyn, ddari ni grwydro’r strydoedd  yno cyn dod i ddiwedd y fordaith wrth gyrraedd Ffrainc ar ôl tipyn o storm ar Fae Biscay. Gadael a ffarwelio a‘r Louise Lumiere yn Le Havre,  y llong yn cyrraedd adre wedi  un ar ugain o ddyddiau ar y môr.  Aros yn y pothladd ddari ni i ddisgwyl am y fferri i groesi’r sianel i Loegr, yno glywsom yr iaith Saesneg am y tro cynta, Ffrangeg a Sbaeneg oedd hi ar y llong.  Taith dros y nôs yn y fferi ond ar ein heistedd a ninnau wedi blino. Aethom am bryd o fwyd ar y llong a gweld bwyd  hunan arlwyol am y tro cynta, pob un y helpu ei hun ac yna mynd heibio’r til a thalu, rhyfedd iawn meddyliais.

Wrth ddod o’r llong yn Southampton, gwelais dir Prydain Fawr am y tro cynta. Dyma’r tir yr ynys o le hwyliodd rhai o’m hynafiaid ar y Mimosa  cant ag un o flynyddoedd yng nghynt.

Tregaron

Daethom oddi ar fwrdd y llong fferi, ac aethom i chwilio am deliffon i gysylltu efo Glyn Evans, Tregaron. Cawsom ein cyfarwyddo ganddo i gymryd tren i Gaerfyrddin, ond siarsiodd ni gofio gofyn  am Camarthen, neu fyddai dim llawer o obaith i ni gael y tocyn! Gwyddai’r gwerthwr tocynau yn Southmpton ddim am le o’r enw Caerfyrddin!.  Byddai ein prifathro newydd yn disgwyl amdanom yno, ac yn ein tywys ni yn ei gar i ardal Llanio yng Ngheredigion.

‘Roeddwn i’n dair ar ddeg oed, wedi cael fy mhenblwydd ar fwrdd y llong. Nansi a Neli Lloyd oedd y ddwy fodryb newydd oedd yn disgwyl amdanaf, a Dan a Diana Lloyd, Garthenor, oedd rhieni newydd fy mrawd ac Eleanor, eu merch ddeunaw oed oedd ei chwaer newydd.

Y teledu oedd un o’r pethau newydd a  dynnodd fy sylw, dwy sianel oedd yr adeg hono, TWW a’r BBC a chofiaf y rhaglenni yn dda: Y Dydd, Heddiw, Hob y Deri Dando ac eraill.  Cefais y profiad o ganu yng nghôr yr Ysgol a chystadlu yn y gwahanol eisteddfodau efo Mrs Ethel Jones yn arwain. Cofiaf i ni ennill yn y parti cerdd dant pan oedd Gwyl Genedlaethol Cerdd Dant  yn Rhegaron, y gân oedd Twll Bach y Clo. Rhoddodd Ethel Jones y darain fach a gawsom yn wobr  i mi ac ‘rydw i’n ei thrysori o hyd. Aem yn aml i Lambed i fferm Dolaugwyrddion  ar gyrion y dre, gan mai yno oedd chwaer  Nansi a Neli  yn byw. Teulu Williams y Dole, ac ‘roedd ganddynt ddau o blant ein hoed ni, Gwyneth a David.  ‘Rydym yn dal mewn  cysylltid  gyda nhw.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Aberafan neu Port Talbot,  oedd un o’r achlysuron cyntaf i ni  fynychu wedi cyrraedd yr Hen Wlad. Profiad newydd oedd bod ar y maes eang, gyda phobl ymhobman, gweld y pafiliwn enfawr a Gwyndaf yr Archdderwydd. Cawsom ein cyflwyno iddo ac ysgwyd llaw ag e. Trefnydd yr Eisteddfod yn  y gogledd oedd John Roberts, ac yfo oedd yn ein tywys o amgylch y maes. Yr oedd yntau wedi bod yn aros yn ein cartre ni, Pennant, ar ei ymweliad gyda’r Pererinion, sef y fintai o Gymru, yn ystod canmlwyddiant  y Wladfa yn 1965. Ymweliad a dathliad bythgofiadwy.

Ar ol y diwrnod cynta ar y maes, trodd Charli yn ol am dawelwch fferm Garthenor, gormod o fobl a phrysurdeb!.  ‘Roedd yr holl achlysur yn agoriad llygaid  i ni.

Llanfyllin oedd y lle ffarweliais i a nhad, pan drodd o nôl adre a’n gadael ni yng Nghymru. W.J.Jones a Marged oedd  yn byw yno mewn tŷ mawr hardd ar lethr bryn wrth  y dre. ‘Roedd Wncwl Bill yn athro Cymreg yn yr ysgol uwchradd ac ‘roedd yn fab i Nel y Bwcs, ffrind i Nain pan oedd y ddwy yn ferched bachach yn y Dyffryn ym mlynyddoedd cynnar y Wladfa. ‘Roeddent  wedi cadw mewn cysylltiad trwy ymlythyru ar hyd y blynyddoedd. ‘Roedd Marged wedi gwrando ar ei mham yng nghyfraith yn sôn am ei phlentyndod  a’i hieuenctyd ar lannau’r Camwy ac wedi ei swyno a’i synnu gan y straeon a’r hanesion. Llawer blwyddyn yn ddiweddarach byddai yn ysgrifennu yr hanesion hyn ac yn eu cyhoeddu dan y teitlau Nel Fach y Bwcs a Ffarwel Archentina, ac yn ddiweddarach dan yr enw  O Drelew i Drefach. Dangosodd y “poncho” i mi a’r cwilt a wnaed  efo darnau o ddefnyddiau o ddillad a berthynau i aelodau teulu Berwyn sef teulu fy nain Gwenonwy. ‘Roedd amser fel pe tai wedi aros i Nel pan  orfodwyd iddi  ddod yn ôl i Gymru ac ´roedd hi’n ail fyw  y cyfnod  cyffrous hwnnw  yn y Wladfa trwy adrodd tro ar ol tro ei hatgofion a’i phrofiadau, ac arhosodd y rhain ar gof Marged ei merch yng nghyfraith.  Dyna sut ddaeth Poncho Mamgu yn raglen teledu.

I ysgoldy Llanio aem i’r ysgol Sul ac i gapel Llangybi i wrando pregeth, ac  i Ysgol Uwchradd  Tregaron yn ystod yr wythnos. Fy athro Cymraeg oedd y bardd   John Roderick Rees. Darllenais am ei farwolaeth yn ddiweddar.

Yn ôl i´r Ariannin

Un o’r digwyddiadau olaf cyn i mi gychwyn o Dregaron a Llanio am adra, dros dwy flynedd wedi hynny  ar ddiwedd 1968, oedd ymweliad arlunydd o’r enw Kyffin Williams. Yr oedd ar fin cychwyn ar ei daith i’r Ariannin dan nawdd Ysgoloriaeth Winston Churchill. Daeth i’m gweld, (y “ferch fach” o Batagonia), ac oherwydd y cysylltiad yma daeth i aros efo Nain yn ei chartre sef Tŷ Ni,  yn  Nhrevelin.  Cafodd fenthyg ceffyl i fynd a dôd o’r dre i’r fferm,  ac mae rhai o’i luniau enwog yn tystio i’r dyddiau  yng Nghwm Hyfryd. Llawer ohonynt yn luniau o fyd natur fel adar a choed, a llawer o luniau ceffylau hefyd, heblaw lluniau o Orsedd y Cwmwl a mynyddoedd araill yr Andes sy’n amgylchu y Cwm. Hefyd gwnaeth  y portread  enwog o Norma, y ferch fach o dras frodorol oedd yn byw efo’i mham gyda Nain Gwenonwy yn Tŷ Ni. Llun arall  a wnaeth ar y pryd oedd un o Brychan Evans, un o ddynion urddasol y Cwm a henuriad y capel.

Ychydig feddyliem ar y pryd y deiau yr ymwelydd hwn yn ddyn mor enwog! Y diweddar Sir Kyffin Willims ydy o erbyn heddiw, a’i luniau yn gwerthu am brisiau mawr. Byddai yn anfon cerdyn pob Nadolig am flynyddoedd atom gyda rhai o’i darluniau ei hun.

Mae  plentyndod yn adeg mor bwysig ym mywyd pawb ohonom.

Roedwn i’n bymtheg oed yn dod yn ôl o Gymru i Drevelin yng Nghwm Hyfryd. Nid hawdd oedd ail ymgartrefu unwaith eto ar ôl dwy flynedd a phedwar mis yn yr Hen Wlad. Ond dyna fu fy hanes. ‘Roeddwn yn gadael a chefni ar amser fy mhlentyndod erbyn hyn, gyda’i holl brofiadau amrywiol, y rhai  sydd mor ddylanwadol am eu bod yn creu argraffiadau sylfaenol ar  bersonoliaeth ac yn ffurfio cymeriad.