Mae Arlywydd Afghanistan wedi dweud bod rhaid i’r miloedd o weithwyr diogelwch preifat sydd yn y wlad adael o fewn pedwar mis.

Dywedodd Hamid Karzai eu bod nhw’n tanseilio byddin a heddlu swyddogol y wlad.

Ond mae’r penderfyniad yn tynnu’n groes i luoedd arfog Nato, sy’n dibynnu’n helaeth ar y cwmnïau preifat i hebrwng pobol a cherbydau ar draws y wlad, ac i warchod adeiladau o bwys.

Mae’r Unol Daleithiau eisoes wedi dweud nad ydyn nhw’n cytuno â phenderfyniad yr Arlywydd.

Dadleuol

Mae defnyddio cwmnïau diogelwch yn fater dadleuol yn Afghanistan oherwydd pryderon nad oes digon o reolaeth drostyn nhw.

Maen nhw wedi cael eu cyhuddo o weithredu’n ddi-hid heb ystyried cyfraith y wlad. Mae’r honiadau yn cynnwys saethu at bobol leol am ddim rheswm amlwg.

Ond mae llefarydd o Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau wedi dweud nad ydi eu halltudio nhw o’r wlad o fewn pedwar mis yn “realistig”.

Dywedodd llefarydd ar ran byddin yr Unol Daleithiau eu bod nhw’n cefnogi amcan Hamid Karzai, ond bod angen ymchwilio i faint y dasg cyn gosod terfyn amser i’r cwmnïau diogelwch.

Eglurhad

Mae llefarydd ar ran Adran Wladol yr Unol Daleithiau wedi dweud bod swyddogion eisiau eglurhad gan yr Arlywydd Karzai.

“Ar hyn o bryd,” meddai PJ Crowley, “rydyn ni’n credu bod yna angen o hyd ar gyfer cwmnïau preifat yn Afghanistan.”

Pan gafodd ei ail ethol ym mis Tachwedd y llynedd dywedodd Hamid Karzai na fyddai gweithwyr diogelwch o gwmnïau preifat yn Afghanistan erbyn mis Tachwedd 2011.