Mae llywodraethwr ynys yn y Caribî wedi dweud bod goroesiad 130 o bobol oedd ar awyren Boeing 737 chwalodd mewn storm mellt a tharanau yn “wyrth”.
Dim ond un person, dynes 68 oed, fu farw yn y chwalfa ar Ynys San Andres ddoe, a hynny o drawiad ar y galon. Aethpwyd a 99 o deithwyr oedd wedi eu hanafu i Ysbyty Amor de Patria gerllaw.
“Mae o’n wyrth ac mae’n rhaid i ni ddiolch i Dduw,” meddai llywodraethwr yr ynys, Pedro Gallardo.
Digwyddodd y ddamwain yn rhy gyflym i’r peilot gael cyfle i roi gwybod i’r twr rheoli, wrth iddyn nhw agosáu at y llain lanio.
Glaniodd yr awyren cyn cyrraedd y llain lanio cyn sgrialu ar ei bol wrth i ddarnau o‘i chorff, yr offer glanio, ac o leiaf un injan gael eu rhwygo i ffwrdd.
Daeth yr awyren i stop ar ben arall y llain lanio, wedi ei grebachu ac mewn darnau man, wrth i’r teithwyr syn ddringo oddi arno.
Mae swyddogion yr ynys yn ymchwilio i’r posibilrwydd fod yr awyren wedi ei tharo gan fellten cyn iddo lanio ar yr ynys.
“Mae’n amhosib dweud ar hyn o bryd. Mellten? Gwynt cryf? Fe fydd yr ymchwiliad yn datgelu’r ateb,” meddai’r Cyrnol David Barrero o awyrlu Colombia.
“Crefft y peilot oedd yn gyfrifol am gadw’r awyren rhag taro’r maes awyr.”
Profiad un o’r teithwyr
Dywedodd un o’r teithwyr, Ricardo Ramirez, bod popeth i’w weld yn iawn wrth iddyn nhw agosáu at y maes awyr. Gallai weld mellt y tu allan i’r ffenestr, meddai.
“Roedd yr awyren yn cyrraedd yn iawn. Roedden ni ar fin glanio, roedd popeth dan reolaeth,” meddai. “Digwyddodd y ddamwain heb unrhyw rybudd.”
Teimlodd yr awyren yn taro’r llawr ac yn llithro ar draws y llain lanio. Dywedodd ei fod o wedi brwydro i’w rhyddhau ei hun a’i wraig o’u gwregys.
“Roedd yr awyren wedi dechrau mynd ar dân felly roedd rhaid i ni ddianc,” meddai. “Ond o fewn munudau daeth yr heddlu draw a’n helpu ni.
“Roedd o’n wyrth. Diolch i Dduw ein bod ni’n fyw.”