Ymddangosodd bachgen 15 oed o flaen llys ddoe wedi ei gyhuddo o herwgipio ac ymosod yn rhywiol ar ferch wyth oed oedd ar ei ffordd adref o barc chwarae, meddai’r heddlu.
Roedd y plentyn yn chwarae yn ardal Hill Street Penygraig, yng Ngwm Rhondda, ar Awst 6 pan aeth y llanc a hi i lôn gyfagos a’i chyffwrdd a cheisio ei chusanu.
Roedd y ferch “wedi cael braw ac yn gofidio” ynglŷn â beth ddigwyddodd, meddai Heddlu De Cymru.
Fe aeth y ferch adref ar ôl yr ymosodiad honedig, ddigwyddodd rhwng 7.30pm a 8pm y nos, a dweud wrth ei mam.
Cafodd y llanc ei gadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos o flaen Llys Ynadon y Rhondda ddoe. Fe fydd yn ymddangos o flaen yr un llys eto Dydd Iau.