Dim ond partneriaeth am y wiced ola’ a lwyddodd i achub Morgannwg rhag sgôr isa’r tymor wrth iddyn nhw fynd i drafferthion yn erbyn Middlesex yng Nghaerdydd.

Fe lwyddodd y bowlwyr Dean Cosker a David Harrison i sgorio 62 am y ddegfed wiced – y gorau erioed yn erbyn y tîm o Lundain.

Fe aeth hynny â Morgannwg at gyfanswm o 198, a nhwthau ar un adeg wedi bod yn 8 am 3 a 114 am 7.

Dalrymple yn torri bawd

Harrison oedd y trydydd sgoriwr ucha’ gyda 35 ac roedd 37 yr un i Tom Maynard a’r capten James Dalrymple.

Fe ddaeth hi’n amlwg wedyn y bydd Dalrymple yn colli’r ail fatiad a thair gêm nesa’ Morgannwg ar ôl torri ei fawd wrth gael ei ddal y tu ôl i’r wiced.

Erbyn y diwedd, roedd Middlesex wedi storio 68 am 2 gan olygu fod Morgannwg yn wynebu tasg anodd i gadw’u lle ar frig yr Ail Adran.

Llun: Jamie Dalrymple – torri bawd