Mae disgwyl y bydd chwaraewr Cymru, Craig Bellamy, yn arwyddo i glwb newydd heddiw – ond does dim sicrwydd mai Caerdydd fydd hwnnw.

Mae ei ffrind agos, y cyn chwaraewr arall, Robbie Savage, wedi awgrymu wrth y BBC y bydd Bellamy’n ymuno gyda chlwb arall, ond y gallai hynny fod yn syndod.

Y gred yw bod capten Cymru wedi bod yn siarad gyda chynrychiolwyr rhyw glwb ddoe a bod ei glwb presennol, Manchester City, yn fodlon i’w weld yn gadael.

Everton yw un o’r clybiau sydd wedi dod i’r ffrâm ar ôl ffrae fawr rhwng Bellamy a Roberto Mancini, rheolwr Manchester City.

Mynd i Gaerdydd – ‘gwastraff’

Yn y cyfamser, mae rheolwr Spurs, Harry Redknapp, wedi dweud y byddai’n “wastraff” petai Bellamy’n ymuno gyda Chaerdydd yn y Bencampwriaeth.

Mae Bellamy’n chwaraewr Uwch Gynghrair ac yn un o’r chwaraewyr gorau, meddai Redknapp a fyddai’n hoffi ei arwyddo.

Ond mae’n cydnabod nad yw hynny’n debygol gan fod Manchester City a Spurs yn cystadlu am le ym mhedwar ucha’r Uwch Gynghrair.

Posibilrwydd arall i Bellamy fyddai arwyddo i Fulham, lle mae cyn reolwr Cymru, Mark Hughes – ef oedd wedi arwyddo’r blaenwr i Blackburn Rovers ac wedyn Manchester City ei hun.

Fwy nag unwaith, fe ddywedodd Bellamy y byddai wrth ei fodd yn helpu Caerdydd i geisio cyrraedd yr Uwch Gynghrair ond fe fyddai ei gyflog yn broblem i’r tîm Cymreig, hyd yn oed ar gyfnod o fenthyg.