Mae disgwyl y bydd cyn gapten rygbi Cymru, Gareth Thomas, yn chwarae am dymor arall gyda’r Croesgadwyr yn Wrecsam.
Mae’r canolwr 36 oed wedi dweud ei fod eisiau arwyddo am un tymor arall gyda’r tîm rygbi tri ar ddeg yn yr Uwch Gynghrair.
Fe ddywedodd ei asiant ddoe y byddai Thomas yn hoffi arwyddo am un tymor arall gyda’r Crusaders – byddai hynny’n ei gadw ar y Cae Ras tan yr hydref 2011.
Hwnnw fyddai ei dymor ola’, meddai’r asiant, wrth i Thomas baratoi i gael ei gap cynghrair cynta’ tros Gymru yn ddiweddarach eleni.
Ef oedd y chwaraewr cynta’ i ennill mwy na 100 o gapiau rygbi undeb tros Gymru.