Fe lwyddodd y Cymro Ryan Giggs i gynnal ei record ryfeddol o sgorio ym mhob un o dymhorau’r Uwch Gynghrair yn Lloegr.

Y chwaraewr canol cae a sgoriodd drydedd gôl Manchester United yn eu buddugoliaeth o 3-0 yn erbyn Newcastle – gêm gynghrair gynta’r tymor i’r tîm o Old Trafford.

Mae hynny’n golygu fod Giggs bellach wedi sgorio ym mhob un o dymhorau’r Uwch Gynghrair, ers iddo gael ei ffurfio yn 1992.

Ac yntau bellach yn 36 oed, fe sgoriodd tua diwedd y gêm gyda foli ar ôl pas gan hen ddyn arall y tîm a chwaraewr gorau’r gêm, Paul Scholes.

Y disgwyl yw mai hwn fydd tymor ola’ Ryan Giggs cyn ymddeol.