Fe gododd dadl rhwng y Swyddfa Gymreig a Llywodraeth y Cynulliad tros godi isafswm pris am alcohol yng Nghymru.
Mae’r Gweinidog Iechyd yng Nghaerdydd wedi awgrymu y byddai hi’n hoffi gosod isafswm ond mae gweinidog yn y Swyddfa Gymreig yn dweud na fydd hynny’n bosib.
Fwy nag unwaith, mae Edwina Hart wedi awgrymu y byddai’n hoffi cael y grym i reoli’r pris er mwyn datrys problemau gor-yfed.
Ond, neithiwr, fe ddywedodd David Jones o’r Swyddfa Gymreig, nad oedd gan y Cynulliad y grym i wneud hynny ac na fyddai’n cael y grym chwaith.
Roedd rheolaeth tros bris alcohol wedi cael ei eithrio’n fwriadol o Ddeddf Llywodraeth Cymru yn 2006, meddai.
Mae Edwina Hart wedi awgrymu bod y Llywodraeth yn Llundain yn llusgo’i thraed tros y mater ac mae nifer o arbenigwyr iechyd hefyd wedi galw am isafswm pris. Mae Llywodraeth yr Alban hefyd yn awyddus i weithredu.
Llun: Alcohol rhad (Gwefan Cheap alcohol)