Mae’n ymddangos fod y bygythiad o streiciau yn rhai o’r prif feysydd awyr wedi diflannu wrth i gwmni meysydd awyr BAA gytuno ar godiad cyflog gydag arweinwyr undebau.

Yn hwyr neithiwr, fe gyhoeddwyd bod trafodaethau rhwng y ddwy ochr o dan adain y corff cymodi, Acas, wedi llwyddo.

Fe fydd arweinwyr undebau, gan gynnwys y mwyaf ohonyn nhw, Unite, yn argymell y dylai eu haelodau dderbyn y cynnig newydd.

Yn y cyfamser, mae’r bygythiad o gynnal streiciau tros brif gyfnod y gwyliau wedi cael ei ddileu – mae’r gweithwyr yn cynnwys peirianwyr a diffoddwyr tân sy’n hanfodol i gadw meysydd awyr ar agor.

Mae BAA, sy’n eiddo i gwmni o Sbaen, yn berchen ar chwe maes awyr yng ngwledydd Prydain, gan gynnwys Heathrow, Stansted, Glasgow a Chaeredin.

Dim manylion eto

Dyw’r naill ochr na’r llall ddim wedi datgelu beth oedd manylion y cytundeb, ond roedd yr undeb yn anhapus gyda’r cynnig cynt o gynnydd cyflog o 1%, gyda 0.5% ychwanegol am dderbyn newidiadau i amodau gwaith.

Wedi’r cytundeb, fe ddywedodd llefarydd ar ran y cwmni bod y cytundeb yn un oedd yn siwtio’r ddwy ochr.

“Rwy’n credu fod y cytundeb yn rhoi gwobr deg i’n staff ond mae hefyd yn gytundeb y gall y cwmni ei fforddio,” meddai Terry Morgan.

Llun: Maes awyr Stansted (Oxyman – Trwydded GNU)