“Arian gwaed” yw rhodd Tony Blair i gymdeithas y British Legion, meddai tad un o’r milwyr a fu farw yn Irac.

Mae Reg Keys o Lanuwchllyn wedi condemnio penderfyniad y cyn Brif Weinidog i roi’r elw o’i hunangofiant i’r mudiad sy’n helpu i ofalu am gyn filwyr.

Ond yn ôl tad y plismon milwrol, Tom Keys a fu farw yn Irac yn 2003, roedd Tony Blair yn ceisio prynu maddeuant am fynd â’r fyddin i’r rhyfel yn y lle cynta’. Doedd hwn ddim yn “arian da”, meddai wrth deledu’r BBC.

Yn gyffredinol, mae’r ymateb i benderfyniad Tony Blair yn fwy cymysg, gyda’r British Legion ei hun yn croesawu’r rhodd, sy’n debyg o fod gwerth mwy na £5 miliwn.

Roedd y tâl ymlaen llaw am ‘A Journey’ yn fwy na £4 miliwn – mae Tony Blair yn dweud ei fod wedi ei sgrifennu er mwyn i bobol ddeall beth yw bod yn arweinydd.

Ers ymddeol yn 2007, mae’r cyn Brif Weinidog wedi gwneud ffortiwn yn gwneud areithiau a rhoi cyngor.

Llun: Tony Blair yn mynd gerbron Ymchwiliad Chilcot i ryfel Iracn (Gwifrenb PA)