Mae staff gwesty ym Mhowys wedi bod yn edrych ar ôl artist byd-enwog dros y deuddydd diwetha’.

Fe fydd Rolf Harris yn dychwelyd i’r Cann Offis yn Llangadfan heno i dreulio noson ychwanegol – ar ôl bod yn ffilmio eitem ar waith yr artist lleol, Shani Rhys James, yn y Canolbarth.

“Mae o’r dyn bach mwyaf agos atoch chi y gallwch chi ffeindio,” meddai Eirlys Smith, rheolwraig y Cann Offis, wrth Golwg360.

“Roedd rhai o staff cegin y gwesty eisiau tynnu eu lluniau efo fo, felly fe ddaeth i’r gegin a thynnu llun efo pawb.

“Ac wedyn, mi ddeudodd wrtha’ i nad oedd o wedi cael llun efo fi… cyn tynnu un efo fi a’u harwyddo nhw i gyd mewn sgwennu artistig.”

Dai, Tebot Piws a Rolf…

“Dydyn ni erioed wedi cael rhywun mor enwog â Rolf Harris yn aros. Mae’n bleser,” meddai Eirlys Smith, cyn ychwanegu eu bod nhw eisoes wedi tendio ar feirdd a Dai Jones Llanilar a’r Tebot Piws.

“Wrth i Rolf Harris fynd i fyny i’w lofft, roedd o’n copïo fy acen i ac wedyn mi ddeudodd wrtha’ i ei fod o’n ei hoffi,” meddai.

“Pan gyrhaeddodd o ddoe, roedden ni’n meddwl y bydda fo’n cyrraedd mewn car chauffeur, ond cyrraedd mewn peth digon cyffredin hefo’r criw wnaeth o.

“Mae o mor naturiol. Mae’n bleser ei gael o. Mae’n 80 bellach ac mae’n edrych union fel mae o ar y teledu.”

Ffarwel gan Barti Cut lloi?

Fe allai rhai aelodau o barti canu Cut Lloi fod yn dod i ganu i Rolf Harris heno, yn ôl rheolwraig y Cann Offis. Er nad oedd y trefniadau yn ffurfiol, dyna ydi’r bwriad yn lleol.

“Maen nhw am geisio gwneud rhyw sing song iddo heno,” meddai Eirlys Smith.