Mae ffrwydrad mawr mewn ffatri tân gwyllt yn China wedi lladd o leia’ 13 o weithwyr.
Roedd tua 50 o weithwyr yn y ffafri yn ninas Yichun yn nhalaith Heilongjiang pan ddigwyddodd y ffrwydrad.
Fe gafodd 148 eu hanafu, ac roedd ôl effeithiau’r ffrwydrad i’w teimlo hyd at ddwy filltir i ffwrdd.
Cyffredin
Mae digwyddiadau tebyg a damweiniau mewn ffatrïoedd tan gwyllt yn China yn eitha’ cyffredin.
Mae dwsinau yn marw bob blwyddyn wrth baratoi at briodasau a phartïon oherwydd nad oes rheolau diogelwch trin tân gwyllt llymach.
Wrth i ddamweiniau barhau i ddigwydd, mae Llywodraeth China’n ceisio rhoi mwy o bwyslais ar wella diogelwch diwydiannol.