Mae cost gwisg ysgol wedi cwympo i’w lefel isaf erioed, yn ôl canlyniadau gwaith ymchwil a gafodd eu cyhoeddi heddiw.

Mae prisiau wedi cwympo dros y chwe blynedd diwetha’, a hynny oherwydd bod yna gymaint o gystadleuaeth rhwng siopau stryd fawr ac archfarchnadoedd sy’n gwerthu crysau-polo, trowsusau a sgertiau i blant.

Yn ôl canlyniadau cwmni ymchwil Verdict, mae pris cyfartalog gwisg ysgol wedi cwympo bron i 21% ers 2004.

“Mae’n farchnad bwysig, felly mae gwerthwyr wedi gorfod gostwng eu prisiau er mwyn sicrhau eu cyfran nhw o’r farchnad,” meddai Neil Saunders o gwmni Verdict.

“Ond mae’n bwysig yn seicolegol hefyd – mae’r rheiny sy’n cynnig prisiau rhesymol yn cael eu gweld fel y rhai sy’n helpu rhieni sy’n ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.”


Faint o fusnes?

Mae ymchwil Verdict yn dangos mai cwmnïau groser (ac archfarchnadoedd) sydd bellach ar y blaen o ran cynnig prisiau rhesymol.

Yn 2004, dim ond 13% o’r farchnad oedd gan y siopau groser a’r archfarchnadoedd – erbyn heddiw, mae dros 26% o’r holl werthiant gwisg ysgol yn llenwi eu tils nhw.

Mae cyfanswm holl werthiant gwisgoedd ysgol wedi cwympo rhwng 2004 a 2010 – o £861m yn 2004 i £694m heddiw. Mae hynny’n ostyngiad o 19.4%.