Mae 130 o deithwyr a chriw awyren wedi dianc â’u bywydau, wedi i awyren syrthio i’r ddaear a thorri’n ddarnau tra’n ceisio glanio ar un o ynysoedd y Caribî heddiw.
Fe dorrodd y Boeing 737 yn dair rhan ar ynys San Andres, ger Colombia, ond dim ond un o’r 131 o bobol ar ei bwrdd fu farw yn y digwyddiad.
Mae Llu Awyr Colombia wedi dechrau ymchwilio i’r ddamwain, yn ogystal ag i adroddiadau bod yr awyren wedi cael ei tharo gan fellten cyn syrthio i’r ddaear toc cyn dau o’r gloch fore heddiw (deg munud i wyth, ein hamser ni). Roedd hi tua 120 milltir i ffwrdd o arfordir Nicaragua.
Sgil
Roedd yr awyren Aires wedi gadael Bogota, prifddinas Colombia, tua hanner nos.
“Sgil y peilot oedd yn gyfrifol bod yr awyren ddim wedi taro adeilad y maes awyr,” meddai llefarydd ar ran Llu Awyr Colombia.
Yr unig berson i gael ei ladd oedd gwr 65 oed o’r enw Amar Fernandez de Barreto.
Roedd chwech o’r bobol ar fwrdd yr awyren yn aelodau o’r criw. Fe gafodd pum person arall eu hanafu yn y digwyddiad.