Mae’r bocsiwr o Gaerfyrddin, Kevin Evans yn dychwelyd i’r sgwâr i gynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Dehli ym mis Hydref.
Fe wnaeth Evans ymddeol o focsio ar ôl ennill y fedal arian ym Melbourne bedair blynedd yn ôl, ond mae wedi penderfynu cystadlu un waith eto – a thrio cipio’r fedal aur y tro hwn.
“Roedd Gemau’r Gymanwlad yn foment bwysig yn fy mywyd, ac fe fydd Dehli 2010 yn brofiad anhygoel,” meddai Kevin Evans.
“Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle ac yn barod i roi o fy ngorau.
Yr olaf
Ond mae Kevin Evans wedi mynnu mai gemau 2010 fydd y rhai olaf – go iawn.
“Rwy’n 33 oed erbyn hyn, ac rwya’ i wedi cyrraedd y terfyn,” meddai.
“Dw i ddim yn siŵr iawn beth i’w ddisgwyl gan fy mod i wedi bod i ffwrdd ers pedair blynedd. Ond rwy’n gwybod fy mod i mor gryf ag erioed.
“Rwy’n gobeithio y galla’ i annog y bois ifanc i fwynhau eu hunain ac i beidio â rhoi gormod o bwysau arnyn nhw’u hunain – dyna pryd fyddwch chi fwya’ tebygol o berfformio’n dda.”
Croeso
Mae hyfforddwr y tîm bocsio, Tony Williams wedi croesawu’r newyddion am ddychweliad Kevin Evans.
“Mae Kevin wedi ennill medalau yn y ddau gemau cynt, ac yn sicr mae ganddo gyfle da am drydydd,” meddai Tony Williams.