Fe fydd Catrin Finch yn canu’r delyn mewn gŵyl delynau newydd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ddiwedd y mis hwn.

Mae Gŵyl Delynau’r Haf wedi’i threfnu gan y delynores Shelly Fairplay a’r Ardd Fotaneg, a Chyngerdd yn y Tŷ Gwydr Enfawr fydd uchafbwynt Gŵyl Delynau’r Haf nos Sul, 29ain am hanner awr wedi saith.

Hefyd yn perfformio yn yr ŵyl fydd y delynores Frenhinol, Claire Jones, Gwenan Gibbard a Robin Huw Bowen.

Aneurin Bevan a Bara Brith

“Y syniad  yw bod y delyn mor Gymreig ag Aneurin Bevan, Shirley Bassey a Bara Brith. Ond mae cyngherddau telyn yn cael eu gweld fel rhywbeth elitaidd a dydi hi ddim mor hawdd â hynny i gael gafael ar delyn,” meddai David Hardy, Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu’r Ardd Fotaneg Genedlaethol wrth Golwg360.

“Bydd cyfle yma i bobl wrando ar gerddoriaeth a chwarae’r delyn,” meddai wrth Golwg 360.

Bydd cyfle i’r cyhoedd roi cynnig ar chwarae’r delyn mewn sesiwn ‘rhoi cynnig arni’ fydd yn cael ei gynnal ar , Awst 29ain -30ain . Hefyd, fe fydd sesiynau meistr, gweithdai a darlithoedd ar gyfer telynorion o bob oed a gallu yn ystod y penwythnos. Nid gŵyl i delynorion yn unig yw, meddai trefnwyr.

Eisoes, mae Catrin Finch wedi dweud ei bod yn “eithriadol o hapus i fod yn rhan o Ŵyl Delynau’r Haf yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru…

“ Mae’r lle mor ddeniadol a gobeithio bydd y digwyddiad hwn yn cyflwyno sain peraidd y delyn i gynulleidfa newydd.”

Gŵyl Delynau’r Haf – gobeithion

“Rydw i eisiau i’w ŵyl hon ddod yn ŵyl ddiwylliannol yng nghalendr pawb ac mae Shelly wedi son yr hoffai iddo ddatblygu’n ŵyl wythnos o hyd,” meddai David Hardy wrth Golwg 360.

Fe ddywedodd y pennaeth cyfathrebu fod yr ŵyl yn wahanol i Ŵyl Delynau Ryngwladol Cymru gan “nad yw’n gystadleuol”.

“Y delyn yw offeryn cenedlaethol Cymru ac mae’n cael ei arddangos yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru,” meddai cyn dweud fod “enwau mawr” a “rhywbeth i bawb” yng ngŵyl eleni.