Mae’r Swyddfa Bost wedi gostwng cyfraddau llog eu morgeisi heddiw, wrth iddyn nhw hefyd gyhoeddi dêl newydd dwy flynedd ar gyfer prynwyr tai.

Maen nhw wedi torri cyfraddau eu holl forgeisi o hyd at 0.8%.

Maen nhw wedi cyhoeddi eu benthyciad dwy-flynedd newydd ar gyfradd o 2.85%, sydd ar gael i brynwyr sy’n benthyg hyd at 65% o werth eu cartref newydd. Ond fe fydd yn rhaid i fenthycwyr dalu ffi o £1,495 am y fraint.

Y farchnad

Ond dyw’r gostyngiadau hyn gan y Swyddfa Bost ddim yn debygol o gael effaith ar y farchnad forgeisi, sydd wedi parhau’n llonydd a di-gyffro iawn ers dechrau Gorffennaf.

Ar gyfartaledd, mae’r gyfradd ar ddêl ddwy-flynedd bellach yn 4.5%, tra bo llog ar ddêl bum mlynedd yn 5.56%.

Mae’r gyfradd ar forgais traciwr wedi codi i 3.56%.

Ers dechrau Gorffennaf, mae gostyngiad wedi bod yn nifer y cynlluniau gwahanol sydd ar gael. Ar hyn o bryd, mae 2,699 dêl wahanol ar gael, o gymharu â 2.858 ddechrau Gorffennaf.