Mae’r clymblaid rhwng y Torïaid a’r Rhyddfrydwyr yn San Steffan yn gwrthbrofi dadleuon y beirniaid, yn ôl arweinwyr y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg.
Yn ôl y Dirprwy Brif Weinidog, mae’r llywodraeth yn “radical ac yn gwneud gwahaniaeth”, yn hytrach na’r methiant yr oedd rhai wedi ei ddarogan.
“Yr hyn ydan ni’n ei weld, ar ôl 100 diwrnod mewn grym, ydi ein bod ni’n cael ein beirniadu am weithredu yn rhy gyflym, yn hytrach nag yn rhy ara’ deg,” meddai Nick Clegg.
“Dw i’n meddwl bod hynny’n arwydd o lywodraeth sydd â syniad go gry’ o’r hyn y mae hi am ei gyflawni – p’un ai ydach chi’n cytuno â hi ai peidio, mae hynny’n fater arall…”
Wrth y llyw
Pwysleisiodd Nick Clegg, wrth siarad â newyddiadurwyr y bore yma, mai’r Prif Weinidog, David Cameron, sy’n dal i arwain Prydain yr wythnos hon – er bod hwnnw ar ei wyliau, ac ef ei hun yn cadw golwg ar bethau yn Rhif 10.
“Dw i’n cadw golwg ar bethau am ychydig wythnosau, a dw i’n gwneud hynny mewn ysbryd o bartneriaeth,” meddai.