Mae Ysgrifennydd Cymru wedi croesawu newyddion bod cwmni Corus yn mynd i fuddsoddi £185 miliwn yn eu safle dur ym Mhort Talbot.

“Mae hyn yn newyddion gwych ac yn hwb i’w groesawu i’r ardal,” meddai Cheryl Gillan.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ail-adeiladu ffwrnais flast er mwyn gwella diogelwch, a’i gwneud yn fwy dibynadwy ac yn fwy caredig i’r amgylchedd, dywedodd y cwmni heddiw.

Mi fydd y buddsoddiad yn golygu y bydd bywyd Ffwrnais Rhif 4 yn cael ei ymestyn o 20 mlynedd yn ôl prif swyddog gweithredol Corus, Karl-Ulrich Kohler.

Ac mae disgwyl y bydd hyn yn golygu y bydd cynhyrchiant yno’n cynyddu o hyd at 400,000 tunnell y flwyddyn.

Hwb i ardal

Mae arweinwyr undeb ym Mhort Talbot wedi dweud y bydd y newyddion yn hwb anferth i’r ardal.

Yn ôl David Ferris o undeb Cymuned, mae’r newyddion yn addo dyfodol “cadarn a chynaliadwy” i’r gymuned gyfan, ac i’r 150 o bobol ifanc sydd newydd gael gwaith yno.

Ymroddiad

Mae prif weithredwr Tata (y cwmni sydd berchen Corus) Kirby Adams, wedi dweud bod safon ac ymroddiad y gweithwyr wedi bod yn ffactor bwysig yn y penderfyniad i fuddsoddi yn y safle.

Yn ogystal, roedd y gefnogaeth barhaol gan Lywodraeth Cymru a’r “cymunedau lleol a’r undebau,” wedi bod yn ffactorau pwysig hefyd, meddai.

Bydd y gwaith ar Ffwrnais Rhif 4 yn dechrau yn 2012.