Fe fydd rhaid i’r golffiwr o Gymru, Rhys Davies ddibynnu ar Colin Montgomerie i gael ei ddewis ar gyfer tîm Cwpan Ryder Ewrop.
Ni fydd Rhys Davies yn gallu ennill ei le yn y tîm yn awtomatig oherwydd does ganddo ddim digon o bwyntiau, ac fe gafodd hyn ei gadarnhau ar ôl iddo dynnu’n ôl o Bencampwriaeth Agored Gweriniaeth Tsiec oherwydd blinder.
Yr unig obaith sydd gan y Cymro o chwarae i Ewrop yn erbyn yr Unol Daleithiau yn y Celtic Manor ym mis Hydref yw bod capten y tîm, Colin Montgomerie yn ei ddewis fel un o’r pedwar chwaraewr ychwanegol.
Amheuaeth
Ond mae yna amheuaeth y bydd Rhys Davies yn cael ei ddewis, gyda chwaraewyr profiadol megis Padraig Harrington, Justin Rose a Luke Donald hefyd yn dibynnu ar y capten i’w dewis.
“Roeddwn ni wedi dweud ar ddechrau’r wythnos y bydden ni’n gwrando ar fy nghorff ac mae fy nghorff yn dweud wrthyf i orffwys,” meddai Davies.
“Mae’r Cwpan Ryder yn bwysig i mi, ond ennill cystadlaethau yw’r nod i mi. Mae wedi bod yn gyfnod prysur ac mae’n dechrau dala lan gyda fi.”