Mae cwpwl ifanc o Affganistan wedi cael eu labyddio gan y Taliban am redeg i ffwrdd i briodi.
Roedd y gwr ifanc priod a’r ferch sengl o ardal Kunduz wrthi’n trefnu i redeg i ffwrdd, wedi iddyn nhw gael eu rhwystro rhag priodi.
Roedd y ferch 20 oed wedi ei dyweddio i wr arall, ol pennaeth yr heddlu yn yr ardal, Abdul Raza Yaqoubi.
Roedd hi a’i chariad wedi cuddio yng nghartre’ un o’u ffrindiau, cyn dianc. Ond fe ddaeth y Taliban o hyd iddyn nhw ddoe, ac fe gafodd y ddau eu pledu â cherrig o flaen torf o tua 150 o ddynion.