Fydd Tony Blair ddim yn derbyn ceiniog o elw o werthiant ei hunangofiant, A Journey.

Yn hytrach, fe fydd pob ceiniog o werthiant y llyfr yn mynd i goffrau canolfan chwaraeon newydd i filwyr sydd wedi eu hanafu mewn rhyfeloedd.

Mae llefarydd ar ran Tony Blair wedi cadarnhau hefyd y bydd y ganolfan, a fydd yn agor ei drysau yn ystod haf 2012, hefyd yn derbyn £4.6m y blaendal a dderbyniodd cyn-Brif Weinidog Prydain gan y cyhoeddwyr.

“Fe benderfynodd Tony Blair, pan adawodd ei swydd, y byddai’n cyfrannu pob ceiniog o werthiant ei hunangofiant i elusen yn ymwneud â’r lluoedd arfog,” meddai llefarydd. “Mae canolfan newydd y Lleng Brydeinig yn un o’r rheiny.

“Trwy wneud hyn, mae Tony Blair yn cydnabod dewrder ac ymroddiad y milwyr. Dyma ei ffordd ef o gydnabod ac anrhydeddu eu dewrder a’u haberth.”