Mae disgwyl i gyn-gapten Cymru, Gary Speed, gael ei benodi’n rheolwr newydd Sheffield Utd yfory.

Mae’r clwb wedi cyhoeddi eu bod nhw’n cynnal cynhadledd i’r wasg brynhawn fory, pryd y bydd enw’r rheolwr newydd yn cael ei gyhoeddi.

Mae Golwg360 yn deall mai Speed, sydd eisoes yn hyfforddwr cynorthwyol gyda’r clwb, fydd yn olynu Kevin Blackwell yn swydd rheolwr, ar ôl i hwnnw gael ei ddiswyddo dros y Sul.

Mae Speed wedi cyfarfod gyda chadeirydd Sheffield Utd, Kevin McCabe a’r Prif Weithredwr, Trevor Birch yn Sbaen lle cafodd y swydd ei chynnig iddo.

Roedd Gary Speed yn un o’r ffefrynnau i olynu Paulo Sousa fel rheolwr Abertawe dros yr haf, ond fe wrthododd Sheffield Utd roi caniatâd i’r Elyrch gynnal trafodaethau gyda chyn chwaraewr canol cae Leeds, Everton a Newcastle.