Mae cantores ar brawf yn yr Almaen ar gyhuddiad o achosi niwed gorfforol trwy gael rhyw a hithau’n gwybod ei bod yn HIV-positif.
Mae Nadja Benaissa, sy’n aelod o fand merched No Angels, yn cael ei chyhuddo o roi’r haint i ddyn y bu hi mewn perthynas gydag ef am dri mis yn 2004.
Yn y llys, fe ddywedodd ei chyfreithiwr bod y gantores yn cydnabod nad oedd hi wedi dod i delerau â’r cyflwr, ac nad oedd hi wedi handlo’r sefyllfa’n iawn bryd hynny. Yr oedd hi’n “ymddiheuro o waelod ei chalon,” meddai.
Fe gafodd Nadia Benaissa ei harestio ym mis Ebrill 2009, a’i chadw mewn cell am ddeg diwrnod. Ar y pryd, roedd grwp codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr yn feirniadol iawn o’r cam hwnnw.
Gwybod yn iawn
Mae’r erlynwyr yn dweud fod Nadia Benaissa yn gwybod yn iawn ei bod yn HIV-positif ers 1999.