Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn mynnu bod yr iaith a’r diwylliant yn rhan o’r rheswm tros fod eisiau prynu 16 erw o dir ar lan y môr ger Aberdaron.
Roedd hynny ar ôl i apêl am arian gael ei lansio’n uniaith Saesneg a heb sôn o gwbl am gymeriad diwylliannol arbennig yr ardal ym Mhen Llŷn.
Roedd yr apêl yn cael ei chynnal gan Ymgyrch Neptune sy’n gweithredu ar draws gwledydd Prydain, meddai llefarydd ar ran yr Ymddiriedolaeth yng Nghymru.
Yr ymgyrch oedd yn gyfrifol am lenyddiaeth yr apêl ac am ei dosbarthu, meddai, gan bwysleisio fod taflenni cyhoeddusrwydd yr Ymddiriedolaeth yng Nghymru yn gwbl ddwyieithog.
Mae taflenni’r apêl, sydd wedi eu hanfon at aelodau’r Ymddiriedolaeth, yn sôn am fywyd gwyllt yn ardal Porth Simdde a Henfaes ar gyrion Aberdaron ac yn dweud ei bod yn bwysig atal datblygiadau twristaidd anaddas er mwyn arbed byd natur.
“Yn sicr, mae’r iaith a’r diwylliant yn ffactorau y mae’r Ymddiriedolaeth yng Nghymru yn awyddus i’w hamddiffyn,” meddai’r llefarydd wrth Golwg360.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn ceisio codi £3 miliwn er mwyn prynu’r llecyn – mae arian cyfatebol ar gael trwy Croeso Cymru er mwyn prynu’r tir a datblygu canolfan ddehongli yno.
Fe fyddai prynu’r tir yn golygu gallu ymestyn llwybr yr arfordir trosto.
Llun: Porth Simdde (Peter Shone CCA2.0)