Mae yna adroddiadau bod ymosodwr Man City Craig Bellamy wedi cael yr hawl gan ei glwb i ddechrau ymarfer gyda Chaerdydd.

Y gred ydi bod y Cymro ar fin ymuno gyda’r Adar Gleision ar fenthyg am chwe mis, wedi i reolwr Manchester City, Roberto Mancini, roi’r hawl iddo ddechrau ymarfer gyda chlwb y Bencampwriaeth.

Mae Caerdydd wedi dweud y bydden nhw wrth eu bodd pe bai’r Cymro yn dod i chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

“Mae’n beth da”

“Gyda’r nifer o glybiau sy’n cael eu cysylltu gyda Craig, mae’n beth da ein bod ni’n cael yn ystyried yn opsiwn,” meddai Caerdydd mewn datganiad.

“Mae cael ein cysylltu gyda chwaraewr o’i safon yn dangos pa mor bell r’yn ni wedi dod.

“Fe fydden ni wrth ein bodd pe bai hyn yn digwydd, ond nid ni yn unig sy’n awyddus i arwyddo.”

Rhydd

Mae Manchester City wedi hysbysu Craig Bellamy ei fod yn rhydd i adael y clwb, ac mae nifer o glybiau, gan gynnwys Tottenham Hotspur, Fulham a Celtic wedi dangos diddordeb ynddo.

Ond fe ddywedodd y Cymro yr wythnos ddiwetha’ y byddai’n hoffi chwarae i Gaerdydd cyn iddo ymddeol.