Mae Caerdydd, prifddinas statws Masnach Deg gynta’r byd, wedi llwyddo i gadw ei statws Masnach Deg am ddwy flynedd arall, yn dilyn cais adnewyddu llwyddiannus i’r Sefydliad Masnach Deg.

Fe gafodd y ddinas y statws gwreiddiol ar 1 Mawrth, 2004.

Ers chwe blynedd, mae’r Caerdydd wedi bod yn hyrwyddo Masnach Deg ac yn helpu eraill i ddefnyddio nwyddau Masnach Deg.

Caerdydd heddiw

Bellach, mae 150 o siopau a bwytai Masnach Deg wedi’u rhestru o amgylch y ddinas. Mae amryw o gyflogwyr yn defnyddio nwyddau Masnach Deg gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, UWIC, Trenau Arriva a’r BBC.

Mae gan holl ysgolion uwchradd a chynradd Caerdydd gynnyrch Masnach Deg ar gael i fyfyrwyr, gan gynnwys sudd, siocled a bananas, gyda thua 70 o ysgolion yng Nghaerdydd wedi ceisio am statws ysgol Masnach Deg.

Er mwyn cadw’r statws Masnach Deg am ddwy flynedd arall, fe wnaeth Masnach Deg Caerdydd adnewyddu cais y Ddinas gan ddangos sut maen nhw wedi cynnal a datblygu eu nodau Masnach Deg.

Y dyfodol – ‘Ffyrdd newydd’

“Mae’r ddinas wedi cyflawni llawer iawn yn y chwe blynedd diwethaf… Dw i’n falch iawn ein bod wedi cadw’r wobr am ddwy flynedd arall,” meddai Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Margaret Jones.

“Yn y blynyddoedd nesaf, fe fydd y cyngor yn cynnal yr hyn yr ydyn ni wedi’i gyflawni eisoes ac yn canolbwyntio ar ffyrdd newydd o gyflwyno Masnach Deg i’r ddinas.

“Bydd hyn yn cynnwys gwella cysylltiadau gyda grwpiau cymunedol a gweithio gyda nhw i ddefnyddio nwyddau Masnach Deg.”