Mae chwaraewr newydd Caerdydd Seyi Olofinjana, yn credu bod angen i Jason Koumas baratoi ei hun yn feddyliol er mwyn iddyn nhw allu ffurfio partneriaeth gyffrous yng nghanol cae i’r Adar Gleision.

Fe chwaraeodd Seyi Olofinjana yn dda iawn i Gaerdydd yn erbyn Derby dros y Sul, ac mae’r gŵr o Nigeria yn edrych ymlaen at gael chwarae gyda Koumas.

“Rwy’ i wedi chwarae yn erbyn Jason sawl gwaith, ac mae’n anhygoel,” meddai Seyi Olofinjana wrth bapur y Western Mail.

“Mae’n gymaint o dalent, ac os gallwn ni gael ei feddwl yn iawn a’r bêl wrth ei draed, fe fydd yn chwaraewr allweddol.

“Ond fe fydd angen i ni weithio arno yn seicolegol. Fe fydd angen i ni ei wneud yn gartrefol ac rwy’n gwybod bod y clwb yn gwneud hynny. Rwy’n edrych ymlaen at chwarae gydag ef.”

Canmol

Yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Derby, roedd Seyi Olofinjana yn llawn clod i rai o chwaraewyr yr Adar Gleision, gan gynnwys Danny Drinkwater, sydd ar fenthyg wrth Manchester Utd.

“Mae Danny yn chwaraewr gwych ac mae e’n mynd i wella. Mae’r opsiynau ymosodol yn ardderchog hefyd gyda phresenoldeb Jay Bothroyd, ac fe fyddwn ni’n cael goliau’n hawdd gyda Michael Chopra.”