Mae cyn-bennaeth corff gwarchod gwariant a threthi’r llywodraeth, yn poeni y gallai gwledydd Prydain lithro’n ôl i ddirwasgiad – ac mae’n gofyn i bawb fod ar eu gwyliadwriaeth.

Fe adawodd Syr Alan Budd ei swydd yn y Swyddfa Gyfrifoldeb Cyllidol yr wythnos ddiwetha’.

“Er mai’r canlyniad mwya’ tebygol ydi y bydd yr economi’n parhau i dyfu, mae hi’n bosib y gallai Prydain lithro’n ôl i dyfiant negatif,” meddai.

Mae hefyd wedi amddiffyn y Swyddfa y bu’n gweithio iddi, yn erbyn honiadau bod yna ymyrraeth wleidyddol.

Roedd y corff wedi cael ei feirniadu am gyhoeddi ffigurau oedd yn gwrth-ddweud yr hyn oedd ym mhapur y Guardian y byddai pecyn ariannol cyntaf Llywodraeth San Steffan yn costio 1.3 miliwn o swyddi.

“Roedden ni’n gwbwl annibynnol,” meddai. “Roedden ni’n digwydd gweithio yn adeilad y Trysorlys, ond ni ddylai hynny godi cwestiynau ynglŷn â’n hannibyniaeth.

“Mae gyda ni’r un swyddogion, ond does yna ddim dylanwad gweinidogol.”