Mae awdurdodau’r RFL am gynnal ymchwiliad yn dilyn ymateb dig hyfforddwr y Crusaders, Brian Noble ar ôl i’w dîm colli 18-16 yn erbyn Hull FC nos Wener ddiwethaf.
Fe geisiodd Noble siarad gyda’r dyfarnwr James Child ar ôl iddo wobrwyo Hull FC gyda chic gosb yn eiliadau olaf y gêm.
Ond fe gafodd hyfforddwr y Crusaders ei rwystro rhag mynd ar y cae gan y dyfarnwyr cynorthwyol.
Rhwystro
Roedd y Crusaders ar fin sicrhau gêm gyfartal, cyn i’r dyfarnwr benderfynu bod y Crusaders wedi rhwystro Reece Lyne wrth iddo gwrso cic.
Dywedodd Brian Noble ei fod yn grac iawn gyda’r penderfyniad ar ôl y gêm a’i fod ei dîm yn haeddu gwell na’r canlyniad.
Er gwaetha’r golled, mae’r Crusaders yn dal i fod yn yr wythfed safle yn y Super League ar ôl i Castleford golli i Leeds.