Mae’r cwmni BT wedi dweud fod bron 24,000 o bobol wedi ceisio am 221 o lefydd ar eu cynllun prentisiaeth eleni.

Daw’r diddordeb mawr yn dilyn cyhoeddiadau yr wythnos ddiwetha’ bod rhai prifysgolion eisoes yn llawn, hyd yn oed cyn i ganlyniadau arholiadau Lefel A gael eu cyhoeddi.

Mae’r sefyllfa yn adlewyrchu’r sefyllfa economaidd fregus sydd wedi golygu llai o swyddi, a chynnydd yn y nifer o bobol sydd am fynd i’r brifysgol.

Yn lle mynd i goleg…

Arwydd arall o’r sefyllfa yw’r cynnydd yn y nifer o bobol sydd ddim wedi mynd i’r brifysgol sydd wedi gwneud cais i gwmnïoedd sydd fel arfer yn cyflogi graddedigion.

Yn ôl y cwmni PricewaterhouseCoopers, mae ceisiadau am eu cynllun mynediad ar gyfer pobol sy’n gadael yr ysgol wedi dyblu i 800 dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae Network Rail wedi dweud eu bod wedi cael 4,000 cais am 200 prentisiaeth eleni.

Mae sefydliad cymhwyster galwedigaethol City & Guilds, wedi dweud fod 20% yn fwy o bobol wedi dangos diddordeb mewn rhaglenni dros yr haf yma o’i gymharu â llynedd.

Mwy o le

Mae Adran Fusnes Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi cynlluniau i greu 50,000 o lefydd ar gynlluniau prentisiaeth yn ogystal â noddi 8,000 o bobol mewn prifysgolion.

Mae cyfradd ddiweithdra pobol 18 i 24 oed yn 17.5% ar hyn o bryd.