Mae teuluoedd y chwe aelod o Heddlu Milwrol Prydain a gafodd eu llofruddio yn Irac yn 2003 wedi cael gwybod bod pump o’r rhai a oedd dan amheuaeth yn ddieuog.
Mewn llythyr at y teuluoedd, dywedodd Nick Harvey, Gweinidog y Lluoedd Arfog, fod y barnwr wedi dyfarnu bod pump o’r saith a gafodd eu harestio’n gynharach eleni heb achos i’w ateb.
Mae disgwyl i’r ddau arall wynebu achos llys mewn cysylltiad â’r marwolaethau.
“Awgrymodd y barnwr y bydd y ddau sydd ar ôl, yn dilyn cadarnhad o pwy yw un ohonyn nhw, yn wynebu treial,” meddai’r Gweinidog.
Mae teuluoedd y milwyr wedi bod yn brwydro’n hir dros gael at y gwir.
Un o’r rhai a gafodd ei ladd oedd Thomas Richard Keys, y mae ei deulu’n byw yn Llanuwchllyn. Ers ei farwolaeth, mae ei dad, Reg Keyes, wedi bod yn flaenllaw fel ymgyrchydd yn erbyn rhyfel Irac, a safodd yn erbyn Tony Blair yn etholaeth Sedgefield yn etholiad cyffredinol 2005.
Cafodd y chwech eu lladd ar ôl i dyrfa o Iraciaid ymosod ar orsaf heddlu yn Majar al-Kabir ym mis Mehefin 2003.
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn fod llywodraeth Prydain wedi ymrwymo y bydd y rhai sy’n gyfrifol yn wynebu cyfiawnder.
Llun: Thomas Richard Keys o Lanuwchllyn, un o’r chwe phlismon milwrol a gafodd ei ladd yn Irac yn 2003 (Y Weinyddiaeth Amddiffyn/Gwifren PA)