Llwyddodd criw hofrennydd Heddlu Gogledd Cymru i gael hyd i ddyn a oedd ar goll yn Sir Ddinbych.

Roedd yr heddlu wedi derbyn galwad am chwarter i wyth y bore yma’n dweud bod dyn yn ei 50au ar goll yn ardal Dyserth.

Roedd pryder am ei ddiogelwch a dechreuodd yr heddlu chwilio amdano gan ddefnyddio hofrennydd.

Ar ôl cael hyd i’r dyn, rhoddwyd cymorth cyntaf iddo ac aed ag ef i’r ysbyty i dderbyn triniaeth am fân anafiadau.