Cafodd bachgen tair oed ei ruthro i’r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl iddo gael ei daro’n wael ar long o Abergwaun i Iwerddon ddoe.
Roedd yn dychwelyd adref i Iwerddon gyda’i deulu ac roedd y llong tua 13 môrfilltir o Strumble Head pan gafodd gwylwyr y glannau eu galw tua 4 o’r gloch y prynhawn.
Penderfynodd meddyg a dwy nyrs ar fwrdd fferi’r Stena Europe fod angen iddo gael ei gymryd oddi ar y llong ar ôl ymgynghori gyda meddygon yn ysbyty Aberdeen, ac aeth hofrennydd ag ef i Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.
Mewn digwyddiad arall, cafodd gwylwyr y glannau Caergybi eu galw ar ôl i un o griw llong y Marida Melissa gael ei daro’n wael.
Gan fod angen yr hofrennydd o RAF y Fali i fynd â’r bachgen bach i’r ysbyty, bu’n rhaid defnyddio bad achub RNLI i fynd â pharafeddygon at y llong – a oedd wedi angori gerllaw Moelfre.
Meddai rheolwr gwyliadwriaeth Gwylwyr y Glannau Caergybi, Barry Priddis: “Yn yr achos hwn roedd yn rhaid i’r hofrennydd roi blaenoriaeth i’r plentyn.
“Pan gyrhaeddodd criw’r bad achub y llong, fe wnaethon nhw ddweud wrthon ni eu bod yn hyderus y gallen nhw fynd â’r dyn sâl yn ddiogel i’r lan.
“Cafodd y dyn ei godi’n ofalus ar y bad achub a’i gymryd yn ôl i Foelfre, lle cafodd ei godi i ambiwlans, ac ymlaen i’r ysbyty.”