Mae’n debygol y bydd Trish Law yn sefyll eto yn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf wrth i’r blaid oedd yn gefn iddi ystyried newid cyfeiriad.
Dywedodd ymchwilydd ar ran yr AC fod plaid Llais y Bobol ym Mlaenau Gwent wedi “penderfynu gweithio mwy fel grŵp ymgyrchu” na phlaid wleidyddol ar ôl cyfarfod neithiwr ond nad oedd Trish Law am ymddeol.
“O’r hyn dw i’n ei ddeall, mae Llais y Bobl yn bwriadu bod yn llawer uwch eu proffil drwy ymddwyn fel grŵp ymgyrch,” meddai Brian Walters wrth Golwg360.
Yn y cyfarfod yn Blaenau neithiwr penderfynodd cynghorwyr Llais y Bobol sefyll fel aelodau annibynnol yn y dyfodol.
Peter Law
Sefydlwyd y blaid gan yr AC ac AS Peter Law ar ôl iddo adael y Blaid Lafur cyn Etholiad Cyffredinol 2005.
Fe fu farw flwyddyn yn ddiweddarach ac fe enillodd ei wraig weddw Trish Law ei sedd yn y Cynulliad a’i asiant Dai Davies ei sedd yn San Steffan.
Collodd Dai Davies ei sedd o 10,500 o bleidleisiau yn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai ac ni fydd yn ymgeisio eto.
‘Mynd i sefyll’
Wrth son am yr Etholiad Cynulliad nesaf fe ddywedodd Brian Walters ei fod yn credu bod Trish Law “ar hyn o bryd yn bwriadu sefyll” fel AC.
Dywedodd fod ganddi “lawer o ffrindiau yn y Cynulliad ac yn yr wrthblaid”.
“Mae rhai ymgeiswyr Llafur yn ei hedmygu’n ddistaw bach am sefyll ar ôl marwolaeth Peter.
“Dw i’n credu ei bod hi wedi gwneud ei marc yn y Cynulliad ac yn wleidyddol,” meddai.
Safodd Trish Law yn annibynnol yn 2006 ac eto yn 2007 “gyda chefnogaeth Llais y Bobl,” meddai Brian Walters wrth Golwg360.