Mae rheolwr Fulham, Mark Hughes wedi cadarnhau ei fod o’n awyddus i ddenu ymosodwr Cymru, Craig Bellamy i Craven Cottage.

Mae rheolwr Sunderland, Steve Bruce a rheolwr Celtic, Neil Lennon eisoes wedi dweud ei bod nhw eisiau i’r Cymro ymuno gyda’u clybiau.

Mae ‘na amheuon ynglŷn â dyfodol Bellamy gyda Man City ar ôl iddo gael ei adael allan o’u carfan ar gyfer gêm ragbrofol Cynghrair Europa.

Fe ddywedodd yr ymosodwr ei fod o’n credu na fydd rheolwr y clwb, Roberto Mancini yn ei ddewis ar gyfer y garfan 25 dyn fydd yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.

Roedd Hughes wedi dweud yn y gorffennol ei fod yn credu na fyddai Fulham yn gallu fforddio arwyddo Bellamy, ond mae cyn hyfforddwr Cymru wedi dweud erbyn hyn bod gan Fulham diddordeb.

“Roedd yn un o chwaraewyr gorau’r Uwch Gynghrair y tymor diwethaf ac os fydd ‘na gyfle i arwyddo a’n bod ni mewn safle i gynnig cytundeb iddo, fe fydd diddordeb gyda Fulham,” meddai Hughes.

“Mae’n bwysig bod Craig yn gwneud y penderfyniad cywir i’w yrfa, ac rwy’n dymuno’n dda iddo beth bynnag fydd ei benderfyniad.”

Pe bai Bellamy yn ymuno gyda Fulham, fe fyddai’n chwarae o dan Mark Hughes am y trydydd tro yn ei yrfa yn dilyn cyfnodau gyda Blackburn a Man City.

Roedd Bellamy hefyd wedi chwarae i Gymru tra’r oedd Hughes yn hyfforddi’r tîm cenedlaethol.