Roedd hi’n amhosib profi fod 50% o’r cynnyrch oedd yn cael ei werthu fel ‘cig oen Cymru’ yn y gogledd yn dod o’r wlad, datgelwyd heddiw.
Roedd Swyddogion Safonau Masnach wedi ymweld â bwytai, gwestai, tai tafarn a thec-awes er mwyn gweld a oedd cynnwys eu bwydlenni a’u platiau yn cyd-fynd.
Roedd yr arolwg yn dilyn un tebyg gan Gyngor Sir Fôn yn 2008 oedd yn awgrymu bod nifer o gwmnïau yn rhoi camargraff ynglŷn â’r bwyd oedden nhw’n ei werthu.
“Mae’r Gwasanaeth Safonau Masnach wedi rhybuddio busnesau arlwyo i wneud yn siwr bod eu bwydlenni yn gywir,” meddai Emma Jones, cadeirydd Panel Bwyd a Mesureg Gogledd Cymru.
“Os am ddefnyddio disgrifiadau fel Cig Oen Cymru neu Gig Gwartheg Duon Cymreig, mae angen i’r arlwywyr gael cadarnhad ysgrifenedig o hyn gan eu cyflenwyr, gyda phob llwyth.”