Prin yw’r bobol gyffredin sy’n mynd i glywed darlith eisteddfodol flynyddol Cymdeithas y Gyfraith ym Mhabell y Cymdeithasau. Cyfreithwyr sy’n mynd gan fwyaf, wrth reswm ond yn aml mae’n nhw’n cael siaradwyr diddorol ac mae’r pynciau’n gallu bod yn addysgol  felly galwes i mewn. Doedd y siaradwr eleni, Mr Ustus David Lloyd Jones, Prif Farnwr Llywyddol Cymru, ddim yn areithiwr ysbrydoledig ond roedd yr hyn oedd ganddo fe i’w ddweud yn ddiddorol o’i ddarllen.

Trafododd e lawer o bethau yn ei 40-50 munud o sgwrs, gan gynnwys pwysigrwydd cyfreithwyr sy’n deall datganoli yng Nghymru, rhywbeth drafododd Carwyn Jones pan wnaeth e’r un araith tra’n dal i fod yn Gwnsler Cyffredinol. Yr hyn dw i eisiau rhannu yw’r newyddion da oedd gan Mr Ustus, sef bod defnyddio’r Gymraeg yn y llysoedd yn fwy-fwy cyffredin ac yn dod yn haws.

Mae 50 o farnwyr yng Nghymru all gynnal achosion yn y Gymraeg ac mae nifer yn fwy sy’n medru digon o’r Gymraeg i glywed tystiolaeth yn yr iaith yn ôl David Lloyd Jones. Cyn bo hir, fe fydd modd hysbysebu am ynadon sy’n gallu siarad Cymraeg. Mae’r Prif Farnwr yn dweud bod y nifer uchel o Farnwyr Cymraeg eu hiaith yn arwydd o “statws Cymraeg cryf y farnwriaeth yng Nghymru.” Fe gyfaddefodd e fodd bynnag bod camgymeriadau gwachul yn dwyn anfri ar y system gyfiawnder, yn benodol sut y bu i’r weinyddiaeth ‘anghofio’ am y Gymraeg wrth ddatblygu’r system weinyddol i’r llysoedd, Libra, a gwysion yn cael eu hanfon allan yn un-ieithog am gyfnod, er bod darpariaeth Gymraeg yn ofynnol yn statudol.

“Ni allaf honni mai stori llwyddiant yw hon drwyddi draw,” meddai. “Yn benodol, rydym wedi cael trafferthion mawr wrth geisio cyflwyno systemau technoleg gwybodaeth sy’n darparu gwasanaeth dwyieithog. Fodd bynnag, credaf fod llawer iawn wedi ei gyflawni’n barod, a gallaf eich sicrhau bod yna ymrwymiad gwirioneddol i fodloni’r galw cynyddol i ddarparu gwasanaethau llys yn y Gymraeg.”