Mae afiechydon croen a chlefydau eraill yn lledaenu drwy’r cymunedau sydd wedi eu heffeithio gan lifogydd Pacistan.
Daw hyn wrth i’r Cenhedloedd Unedig rybuddio y gallai sawl argae yn ne’r wlad chwalu dros y dyddiau nesaf.
Mae tua 1,500 o bobol wedi marw yn y llifogydd hyd yma ond fe allai’r nifer neidio eto wrth i afiechydon ledaenu drwy ranbarthau sydd wedi eu heffeithio.
Mae’r Unol Daleithiau wedi addo £1.9m er mwyn sefydlu 15 canolfan triniaeth ar gyfer afiechydon sy’n cael eu cario gan y dŵr.
Mae’r llifogydd wedi effeithio ar 14 miliwn o bobol erbyn hyn, a dyma’r trychineb naturiol mwyaf yn hanes 63 mlynedd y wlad.
Dywedodd gweithwyr meddygol eu bod nhw wedi trin o leiaf 1,000 o blant gydag afiechydon yn y tri diwrnod diwethaf yn ardal Multan rhanbarth Punjab, sydd wedi ei effeithio’n wael gan y llifogydd.
“Mae’n codi braw arna’i oherwydd fe allai afiechydon heintio goroeswyr eraill,” meddai Mumtaz Hussain, doctor yn y prif ysbyty yno.
Mae disgwyl mwy o law dros y penwythnos a bydd y tymor monsŵn yn parhau am wythnosau eto.