Mae angen uned damweiniau ac achosion brys ar Lanelli, yn ôl cynghorydd sydd wedi derbyn dogfen gyfrinachol yn awgrymu y bydd yr un presennol yn cau.

Dywedodd nad ydi o’n siwr a fyddai ei dad yn fyw heddiw pe bai wedi gorfod teithio i’r ysbyty yng Nghaerfyrddin.

Daeth y ddogfen gyfrinachol gan Ymddiriedolaeth Hywel Dda i law Paul Harris, Ysgrifennydd y Pwyllgor dros Wella Gwasanaethau Ysbyty ardal Llanelli.

Mae ‘Cynllun Strategaeth y Gwasanaethau Iechyd Gwledig – Gorffennaf 2010’ yn dweud y bydd uned damweiniau ac achosion brys Ysbyty Tywysog Philip y dref yn cau.

Nod y cynllun yw cael un uned damweiniau ac achosion brys ym mhob sir y mae gan yr ymddiriedolaeth reolaeth drosto – Cearfyrddin, Ceredigion, a Sir Benfro.

Ond mae pryderon y byddai cau uned Llanelli yn arwain at fwy o bwysau ar unedau Caerfyrddin ac Abertawe.

Dywedodd Paul Harris, sydd hefyd yn swyddog datblygu cymunedol i Gyngor Tref Llanelli, fod “angen adran ddamweiniau” yn Llanelli ac nad ydi pobl “eisiau cael eu gwthio o le i le”.

“Mae gennym ni ddal lawer iawn o ddiwydiant yn Llanelli, ac rydan ni angen uned argyfwng a damweiniau,” meddai.
“Does dim sicrwydd y bydd cleifion yn cyrraedd Glangwili mewn pryd.”

Profiad personol

“Mae pobl Llanelli wedi brwydro i gael ysbyty. Fe gafodd ei adeiladu yn yr 1990au ac fe wnaeth y cyhoedd godi miliynau o bunnoedd ar ei gyfer. Mae’r gymuned eisiau i’r ysbyty aros yn ogystal â’r gwasanaethau argyfwng.

“Mae fy nhad yn byw 200 llath o Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli ac fe gafodd drawiad ar y galon tua 9 mlynedd yn ôl a’i gludo i Ysbyty Philip – mae o dal yn fyw heddiw.

“Petai wedi gorfod mynd i Glangwili fydd wedi cymryd 20-30 munud – pwy a ŵyr a fyddai o dal yn fyw?

“Dw i’n gobeithio fod Edwina Hart yn ddigon o wleidydd i ail ystyried y cynllun a’i newid.”

Mae Paul Harris yn disgrifio Ysbyty Tywysog Philip fel rhan “pwysig” a “gwerthfawr” o’r gymdeithas.

‘Ergyd’

Dywedodd Ken Rees, Cynghorydd Tref a Sir Llanelli, wrth Golwg360 fod y newyddion diweddaraf yn “ergyd i’r ardal”.

“Mae diogelwch pobl Llanelli mewn perygl” meddai wrth son am alwadau brys a’r posibilrwydd y bydd rhaid i bobol deithio i Gaerfyrddin.

“Mae gorfod mynd i Glan Gwili neu Dreforys yn mynd i gymryd dipyn hirach,” dywedodd.

Yr ochr arall i’r geiniog yw y bydd cyfle i’r ysbyty yn Llanelli “arbenigo” mewn rhai mathau o lawdriniaethau, meddai.

“Fe fydd y pobol yn gallu cael cyngor arbenigol ac fe fyddai’n cadw swyddi yn yr ardal.”