Mae’r Almaen o flaen y gad o ran yr adferiad economaidd wrth iddyn nhw gyhoeddi twf rhyfeddol o gryf yn yr ail chwarter eleni.

Mae’r twf 2.2% dwbl y twf 1.1% yn yr un chwarter ym Mhrydain, a dyma’r twf mwyaf yn yr Almaen ers 20 mlynedd.

Roedd disgwyl i’r twf fod o dan 2% ond roedd mwy o alw na’r disgwyl am allforion o’r Almaen, oedd wedi’i helpu gan Ewro gwannach.

Crebachodd economi’r wlad 4.9% yn 2009 – y cwymp mwyaf o’i fath ers yr Ail Ryfel Byd.

Fe fydd y twf yn newyddion da i Brydain, sydd angen gweld parth yr Ewro yn cryfhau er mwyn rhoi hwb i’w hallforion ei hun.

“Mae twf economi’r Almaen, a gollodd ychydig o stem tua diwedd 2009/10, yn ôl ar y trywydd iawn,” meddai Swyddfa Ystadegau Ffederal yr Almaen.

Tyfodd economiau Ffrainc a Sbaen 0.6% a 0.2% yn yr ail chwarter, o’i gymharu gyda 0.2% a 0.1% yn y tri mis blaenorol.

Ar draws Ewrop tyfodd yr economi 1% yn ail chwarter y flwyddyn, yn bennaf diolch i’r Almaen. Crebachodd economi Gwlad Groeg 1.5% a chododd di-weithdra i 12%.

“Yn strwythurol mae economi’r Almaen mewn cyflwr lot gwell na gwledydd diwydiannol eraill, felly dim ond mater o amser oedd hi tan y byddai’r economi yn tyfu’n gyflym,” meddai’r economegydd Carsten Brzeski, o ING Brwsel.

Ond rhybuddiodd nad oedd twf mor fawr â hyn yn gynaliadwy ac y byddai’n arafu dros y misoedd nesaf.