Fe fydd un o lynnoedd Cymru yn rhan o ymchwil arloesol i fesur yr algae gwyrddlas sydd wedi ymddangos ar wyneb nifer o lynnoedd gwledydd Prydain dros y blynyddoedd diweddar.
Yn ôl arbenigwr, mae’n debygol y bydd mwy o’r algae i’w weld yn y dyfodol, wrth i’r byd gynhesu.
Fe fydd Dr Glen George, sydd eisoes wedi bod yn rhan o ymchwil Ewropeaidd a oedd yn dod â deg gwlad at ei gilydd i astudio ansawdd dwr, yn arwain y gwaith ymchwil i fesur yr algae ar Lyn Tegid ger y Bala.
Cyffrous
“Mae’r hyn sy’n cael ei wneud yn Llyn Tegid ar hyn o bryd gamau sylweddol ymlaen o’r hyn a wnaed ar y prosiect Ewropeaidd hynny. Mae hynny’n eithaf cyffrous,” meddai Glen George.
“Y bwriad yw gallu mesur patrwm lledaenu’r algae gwyrddlas mewn modd llawer mwy dibynadwy nag sydd wedi bod yn bosib hyd yma.
“Wedyn, fe fyddwn ni hefyd yn gallu mesur yr ocsigen sydd yn y dŵr dwfn.
“Pan mae’r algae yn suddo i’r dyfnder, mae’n sugno’r ocsigen i gyd ac mae angen mesur natur ag effaith hynny.”
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon