Mae un o gynghorwyr Môn wedi galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gymryd cyfrifoldeb am reoli’r Cyngor “cyn gynted â phosib”.

Mewn llythyr at Carl Sargeant, y Gweinidog Dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, mae’r Cynghorydd Barrie Durkin yn codi amheuon am y ffordd y mae rhai uwch swyddogion a’r Rheolwr Gyfarwyddwr Dros Dro, David Bowles, yn gweithredu.

Fe ysgrifennodd Barrie Durkin y llythyr ar yr un diwrnod ag y daeth y newydd bod dau gynghorydd o Fôn wedi eu gwahardd rhag cynrychioli eu hetholaethau dros dro gan Banel Dyfarnu Cymru.

Mae’r ddau wedi ymddiheuro am fethu â dilyn cyngor y swyddog monitro.

Mae Barrie Durkin yn flin, meddai, am fod “cynghorwyr yn cael eu cosbi (gan banel Dyfarnu Cymru) am fethu â gweithredu yn ôl y drefn ond pan mae uwch swyddog yn gwneud hynny mae’n cael ei frwsio o dan y carped!”


Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon