Mae golygydd cyfres o nofelau Library of Wales yn credu y dylai mwy o nofelau clasurol Saesneg o Gymru gael eu cynnwys ar gwricwlwm addysg yng Nghymru.
“Dw i’n credu y dylen ni ddadlau dros newid yn y cwricwlwm,” meddai Dai Smith.
“Fel dw i’n ei ddeall e, fe all y Cyd-bwyllgor Addysg ddynodi gwaith barddoniaeth a drama yn Saesneg am Gymru, ond dydyn nhw ddim yn dynodi nofelau.
“Dyw athrawon ddim yn cael cyfarwyddyd i ddefnyddio nofel Saesneg o Gymru, a dw i’n credu bod hynny’n drueni gan bod nofelau yn mynegi cymaint am gymdeithas Cymru.”
Pan oedd Dai Smith yn hanesydd ym maes addysg, meddai, fe fu’n brwydro i gael hanes Cymru yn rhan o’r cwricwlwm.
“Nawr mae gyda ni awduron yn yr iaith Gymraeg, awduron yn yr iaith Saesneg. Ond am rhyw reswm dyw nofelau fel Border Country – sy’n llyfr hynod a rhwydd i bobol ifanc
rhwng 16 a 18 oed i’w ddarllen – ddim ar y cwricwlwm craidd, sy’n drueni yn fy marn i.”
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon